top of page

Newyddion Tachwedd yn Ymddangos

Writer: Anna DaviesAnna Davies

Helo i'n holl ddilynwyr! Mae wedi bod yn ddechrau gwych i’r tymor newydd ar ôl holl hwyl Calan Gaeaf.

Ddydd Llun, cawsom ymweliad gan Kathryn Robson sy’n Brif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. 'Yn gefnogwr cadarn i gyfleoedd dysgu gydol oes i bawb, mae Kathryn wedi ymrwymo i yrru'r agenda addysg oedolion a chynhwysiant yn ei blaen, gan roi mwy o hygyrchedd i ddysgu i gymunedau ledled Cymru'. https://www.adultlearning.wales/about/senior-management-team/chief-executive-kathryn-robson/


Daeth Kathryn draw i’n prosiect yn Theatr y Stiwt, Wrecsam ac ymunodd i ddysgu Makaton arwyddo trwy gân a chwarae’r drwm gyda ni i gyd. Cymerodd Kathryn amser hefyd i sgwrsio â’n dysgwyr am y cwrs celfyddydau mynegiannol rydym yn ei gynnal mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

Cafodd dysgwyr a gofalwyr gyfle i siarad am ba mor bwysig yw’r cwrs iddyn nhw ac i rai dyma’r unig weithgaredd maen nhw’n ei wneud drwy’r wythnos. Dywedodd Kathryn iddi fwynhau’r ymweliad yn fawr a’i bod wrth ei bodd â’r gwaith rydym yn ei wneud yn Emerge Community Arts. Hoffem ddiolch i Kathryn am ei holl gefnogaeth ac eiriolaeth i’n prosiectau partneriaeth yng Nghymru.




 
 
 

Comments


Cysylltwch â ni

E-bost: info@emerge.org.uk
Ffôn: 07828 733 467

Dilynwch ni

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

© 2024 gan Emerge Community Arts. Wedi'i bweru a'i sicrhau gan Wix

bottom of page