'Sound Express' yn codi'r to yn yr Wyddgrug!

Yn Emerge rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda'r band anhygoel 'Sound Express'. Ers 2015, mae’r band anhygoel hwn yn perfformio ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt. Yr wythnos hon bu'r band yn perfformio yng Nghlwb Cyswllt Yr Wyddgrug a Bwcle yn Eglwys Fethodistaidd yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Roedd y lle yn rocio wrth i’r band ganu a chwarae cloriau roc poblogaidd a’u deunydd eu hunain. Caneuon fel ‘Smells like teen spirit’ gan Nirvana, ‘With or Without you’ gan U2, ‘Love will tear us apart’ gan The Cure a chaneuon gwreiddiol fel ‘Connah’s Quay Tigers’ a ‘Get up get down’ gan Sound Express . Cyflwynodd y canwr a chwaraewr bysellfwrdd Ryan ei fersiwn orau eto o 'Lockdown' a ysgrifennwyd yn y pandemig 2020 gan Sound Express. Mae ei delyneg yn archwilio holl anfanteision y pandemig, peidio â gweld ein ffrindiau, methu â mynd allan i siopa neu i weithio. Mae'r geiriau pwerus hefyd yn canolbwyntio ar gyfarfod ar-lein yn ystod y pandemig, ac yn ffodus roedd modd i ni i gyd ei wneud, gan sicrhau ein bod ni i gyd yn cadw mewn cysylltiad yn 2020/2021.

Edrychwch ar y lluniau anhygoel hyn o'r gig gan y ffotograffydd lleol, Haydn Davies (Request Stop Photography)
Diolch i Sefydliad Cymunedol Cymru am ariannu a chefnogi’r digwyddiadau hyn a drefnwyd gan ein label recordio, Emerge Records!
Ers 1999, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu dros £40m mewn grantiau i grwpiau cymunedol llawr gwlad ac elusennau i gryfhau cymunedau ledled Cymru.
Maen nhw’n gweithio gyda’n cefnogwyr hael i gyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen ac yn helpu i greu cydraddoldeb a chyfle yng nghymunedau Cymru. https://communityfoundationwales.org.uk/





Comments